Adroddiad drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Teitl:  Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn sefydlu cynllun ar gyfer talu pensiynau a buddion eraill i ddiffoddwyr tân yng Nghymru o 1 Ebrill 2015 ymlaen a wneir o dan bwerau a roddir i Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus 2013. Mae'r cynllun a sefydlir yn gynllun enillion ailbrisiedig cyfartaledd gyrfa. Mae Atodlen 2 i'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth drosiannol.

 

Gweithdrefn:  Negyddol

 

Materion technegol: craffu

 

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

 

 

Rhinweddau: craffu

 

Nodir y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3

 

(ii) mewn perthynas â'r offeryn drafft hwn – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

 

Mae paragraff 2 o'r Memorandwm Esboniadol yn cyfeirio:

 

“When the Regulations were in the final stages of preparation, it came to the Welsh Government’s attention that the Parliamentary Joint Committee on Statutory Instruments (“the JCSI”) had published a report criticising the drafting of three provisions in the Firefighters’  Pension Scheme (England) Regulations 2014 (“the English 2015 Scheme Regulations”). The Regulations are substantially based on the English 2015 Scheme Regulations and include the three provisions the JCSI criticised. “

 

Mae'r Gwasanaethau Cyfreithiol yn fodlon ar yr esboniadau a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru bod y broses o ddrafftio'r tair darpariaeth yn effeithiol fel y nodir yn y Memorandwm Esboniadol a'r eglurhad ychwanegol a ddarparwyd gan gyfreithwyr Llywodraeth Cymru.

 

O ystyried natur dechnegol y Rheoliadau a'r sylwadau y cyfeirir atynt uchod gan y Cydbwyllgor ar Offerynnau Statudol, tynnir sylw'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol at baragraff 4 o'r Memorandwm Esboniadol.

 

“Although the Welsh Government is content that the drafting of the provisions is effective, it will further reflect on the JCSI’s concerns post-introduction of the Regulations and will consider whether it is appropriate to bring forward amending regulations in due course.”

 

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Mawrth 2015

 

Ymateb y Llywodraeth

 

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi adroddiad y Pwyllgor ar y Rheoliadau hyn. Er bod Llywodraeth Cymru yn fodlon bod y darpariaethau y mae beirniadaeth y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol yn cyfeirio atynt wedi’u drafftio’n effeithiol, bydd yn parhau i ystyried pryderon y Cyd-bwyllgor ac adroddiad y Pwyllgor, ac yn ystyried a yw’n briodol cyflwyno rheoliadau diwygio maes o law